Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 21 Hydref 2021
Amser:
14.35 -
16.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12444
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Paul Davies AS (Cadeirydd) Vikki Howells AS Samuel Kurtz AS Cefin Campbell AS Sarah Murphy AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Gwenllian Roberts, Llywodraeth Cymru Christianne Glossop, Y Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru Tim Render, Llywodraeth Cymru Matt McKeown, Llywodraeth Cymru James Fenwick, Llywodraeth Cymru Gawain Evans, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Robert Donovan (Clerc) Lara Date (Ail Glerc) Robert Lloyd-Williams (Dirprwy Glerc) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Daeth ymddiheuriadau i law oddi wrth Hefin David AS a Luke Fletcher AS
1.2 Roedd Carolyn Thomas yn bresennol fel dirprwy ar ran Hefin David AS a Cefin Campbell yn bresennol fel dirprwy ar ran Luke Fletcher AS
1.3 Datganodd Samuel Kurtz ei fod yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Sir Benfro a Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru
1.4 Datganodd Paul Davies fuddiant i eitem 2 ar yr agenda, llythyr gan Weinidog yr Economi ynghylch llu rheoli ffiniau, gan gyfeirio at y posibilrwydd o leoli safle yn ei etholaeth.
2 Papur(au) i'w nodi
2.1 Llythyr oddi wrth y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ynghylch: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Cymru a Lloegr) 2021
2.1.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr
2.2 Llythyr oddi wrth y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg ynghylch: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cymwysterau Proffesiynol
2.2.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr
2.3 Llythyr oddi wrth Weinidog yr Economi ynghylch: Safleoedd Rheoli Ffiniau
2.3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr
2.4 Llythyr oddi wrth Weinidog yr Economi ynghylch: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
2.4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr
2.5 Llythyr i Weinidog yr Economi ynghylch: Cytundebau rhyngwladol: Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy
2.5.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr
2.6 Llythyr oddi wrth Gyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol at Gadeirydd Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
2.6.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr
2.7 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus at Lywydd NFU Cymru
2.7.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr
3 Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Craffu Cyffredinol ar Waith y Gweinidog
3.1 Bu’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths AS, a Swyddogion Llywodraeth Cymru yn ateb cwestiynau Aelodau'r Pwyllgor.
3.2 Mae'r Gweinidog wedi cytuno i roi diweddariad ynghylch y ffigurau sy'n ymwneud â'r strategaeth bwyd môr yng Nghymru a lansiwyd yn 2016.
3.3 At hynny, mae’r Gweinidog wedi cytuno i ystyried y posibilrwydd o wirio microsglodion mewn cŵn wrth reolaethau ffiniau a rhoi ymateb i'r Pwyllgor.
4 Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – y Bil Rheoli Cymorthdaliadau
4.1 Bu’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans AS, a Swyddogion Llywodraeth Cymru’n ateb cwestiynau Aelodau'r Pwyllgor.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig
6 Preifat
6.1 Bu’r Aelodau’n ystyried y dystiolaeth a glywyd yn ystod y cyfarfod sesiwn, a chytunwyd ar ddull o adrodd ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Rheoli Cymorthdaliadau